Hafan

Arbenigwyr Digwyddiadau Elusen a Corfforaethol yng Ngogledd Cymru

Croeso i Digwyddiadau 8 Events – trefnwyr digwyddiadau bwtîc sy’n canolbwyntio ar greu profiadau unigryw i weddu anghenion eich digwyddiad

Rydym yn angerddol am gynhyrchu profiadau byw apelgar a chreu atgofion bythgofiadwy. P’un a yw eich digwyddiad yn gynhadledd neu ddigwyddiad codi arian i elusen, yn syml, nid oes dim all gymryd lle trefnydd digwyddiad sy’n gallu creu digwyddiad teilwredig a nodedig i’ch sefydliad.

Mae Digwyddiadau 8 Events yn darparu gwasanaethau trefnu digwyddiadau sydd wedi’u teilwro yn benodol i’ch dymuniadau a’ch anghenion chi. Mae ein dull ni tuag at drefnu digwyddiadau yn deillio o’n crediniaeth fod pob cleient yn dod a’i weledigaeth unigryw i’w syniad o’r digwyddiad ac ar y cyd gallwn wneud y weledigaeth yn realiti.

Gan ddod a lleoliadau gorau Gogledd Cymru at ei gilydd, gydag ein proses trefnu a cynllunio ynghyd a’n profiadau byw unigryw, rydym yn cynhyrchu digwyddiadau steilus rydych yn siŵr o garu.

Diddordeb yn ein Gwasanaethau? Cysylltwch heddiw i ganfod sut gallwn gydweithio i wneud eich digwyddiad nesaf yn llwyddiant.

 

%d bloggers like this: